![]() | |
Math | adfeilion castell, castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9486°N 3.3938°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR022 ![]() |
Castell yn nhref Aberhonddu, Powys yw Castell Aberhonddu. Fe'i codwyd gan yr arglwydd Normanaidd Bernard de Neufmarché yn 1093, a chafwyd sawl cyrch ac ymosodiad arno gan y Cymry yn y 13eg a'r 15g. Cafwyd sawl perchennog dros y canrifoedd. Wedi i Harri VIII, brenin Lloegr ddienyddio Buckingham yr olaf, gadawyd i'r castell ddirywio g gadawyd ef i adfeilio tan ddechrau'r 19g pan adferwyd yr adeilad yn westy.
Bu Bernard de Neufmarché, brawd Gwilym Goncwerwr yn llwyddiannus yn ei ymdrech i orsegyn Brycheiniog.[1] wedi iddo ladd Rhys ap Tewdwr oddeutu Pasg 1093.[2][3] Drwy hyn ac ymgyrchoedd eraill cryfhaodd y Normaniaid eu gafael ar Dde Cymru.[1][3] Fel gwobr am ei ymdrech, fe wnaed Bernard yn Arglwydd. Pan gychwynodd ar y gwaith adeiladu yn 1093, mae'n bosib mai hwn oedd y castell carreg cyntaf yng Nghymru.[2][4] Cludwyd y cerrig yma o dref Rhufeinig Caerfaddon.[2] Codwyd y castell yn y fforch rhwng dwy afon: Afon Wysg ac Afon Honddu.